Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} Gweld Mwy   Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion.

BODITRAX

DEALL EICH CORFF, DIFFINIO EICH HYFFORDDIANT!

Erbyn hyn mae’r system Boditrax wedi’i gosod mewn nifer o’n canolfannau hamdden ac mae eisoes yn boblogaidd iawn gyda miloedd o’n haelodau! Dyma chi beiriant sy’n esbonio popeth sydd angen ei wybod am fecaneg eich corff, a hynny mewn ychydig eiliadau ac AM DDIM!

BETH MAE BODITRAX YN EI WNEUD?

Mae Boditrax yn mesur ac yn dadansoddi amrywiaeth o fetrigau iechyd i ddarparu dadansoddiad o gyfansoddiad eich corff. Bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o’ch cyfansoddiad corfforol ac yn eich galluogi i greu cynllun iechyd a lles mwy personol o lawer.

BETH FYDD YN EI DDWEUD WRTHYCH?

Mae Boditrax yn cymryd 14 mesuriad mewn dim ond 30 eiliad, gan gynnwys eich Pwysau Cyffredinol, Mynegai Màs y Corff (BMI), Oedran Metabolig, Màs y Cyhyrau, Màs yr Esgyrn a Lefelau Dŵr y Corff. Mae’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn graffig lliwgar, hawdd ei ddeall. Gorau po fwyaf o wyrdd sydd ar y sgrin!

SUT BYDD HYN YN HELPU?

Fe allwch chi ddefnyddio’r ddealltwriaeth hon i dargedu’r metrigau sydd bwysicaf i chi yn effeithiol, a theilwra eich gweithgareddau iechyd a lles i’ch helpu chi i gyflawni eich nodau. Defnyddiwch y peiriant Boditrax unwaith y mis i gadw golwg ar eich cynnydd. Diffiniwch eich rhaglen ymarfer eich hun neu drafod eich canlyniadau a sefydlu cynllun pwrpasol gydag un o’n Hyfforddwyr Personol.

EWCH AMDANI HEDDIW!

Y tro nesaf rydych chi yn un o’n Canolfannau Hamdden, camwch ar y peiriant Boditrax a dilyn y cyfarwyddiadau syml ar y sgrin. Neu os yw’n well gennych chi gael sgwrs am y peth, holwch aelod o’n tîm, a fydd yn fwy na hapus i’ch helpu chi i gychwyn arni.

YMAELODI
YMAELODI
  • Mynediad i'n campfa â 120 o safleoedd ymarfer
  • Pwll nofio 25m
  • 50 o ddosbarthiadau’r wythnos
  • Opsiynau aelodaeth hyblyg a sefydlog
YMAELODWCH NAWR O £38.00 y mis

Prisiau aelodaeth a phrisiau dydd

Eisoes yn aelod? Mewngofnodwch yma