ARVRA

YN CYFLWYNO PLATFFORM ARVRA WELLNESS

Mae ARVRA yn darparu cynnwys iechyd a lles hwylus i chi, o fideos ymarfer i bodlediadau lles. Mae'r platfform yn cynnwys pum dimensiwn lles - Symudiad, Maeth, Hormonau, Ymwybyddiaeth Ofalgar a Straen - gan gefnogi pob agwedd ar eich lles.

BETH SYDD WEDI'I GYNNWYS?

  •  Mwy na 600 o sesiynau ymarfer wedi'u recordio ymlaen llaw, wedi'u cynllunio i gydbwyso lefelau straen
  • Cannoedd o ryseitiau maethlon, hawdd eu dilyn
  • Myfyrdodau bitesize a gwaith anadlu y gallwch eu gwneud yn unrhyw le ar unrhyw adeg
  • Cefnogaeth hormonaidd i ferched a dynion
  • Adnoddau rheoli straen
  • Cyngor ar gwsg

Yn £19.99 fel rheol am fis o aelodaeth, rydyn ni wedi cytuno ar bartneriaeth genedlaethol gydag ARVRA fel bod y platfform yn cael ei gynnwys heb unrhyw gost ychwanegol yn eich Aelodaeth Premium.

CWESTIYNAU CYFFREDIN

SUT MAE CAEL MYNEDIAD I BLATFFORM ARVRA?

Byddwch yn derbyn e-bost pan fydd eich cyfrif wedi'i weithredu a byddwch yn gallu cofrestru, o fewn 48 awr i gofrestru. Wedyn bydd angen i chi lawrlwytho'r ap o'r siop apiau briodol, yn dibynnu ar eich dyfais. Ar ôl hyn, unwaith rydych chi i mewn yn yr ap, gofynnir i chi gofrestru. Ar gyfer hyn byddwch angen eich rhif aelodaeth, sydd i'w weld wrth glicio ar y botwm Membership Card yn yr app.

PA FANYLION MEWNGOFNODI DDYLWN I EU DEFNYDDIO?

Wrth fewngofnodi i ddechrau, bydd angen i chi gofrestru gydag ARVRA, gan ddefnyddio eich rhif aelodaeth. Gallwch ddod o hyd i hwn drwy glicio ar ‘Membership card’ ar sgrin gartref eich ap.

OES UNRHYW RAN O FY NGWYBODAETH BERSONOL I’N CAEL EI STORIO AR AP ARVRA?

Ni fydd Parkwood Leisure na’i bartneriaid yn trosglwyddo unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol i ARVRA. Yr unig wybodaeth fydd yn cael ei rhannu gydag ARVRA fydd rhestr o rifau aelodaeth fel bod eu systemau’n gallu cadarnhau eich cymhwysedd i gael cyfrif am ddim ar y platfform.

Os byddwch chi’n penderfynu ymuno â phlatfform ARVRA, bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn unol â’u polisi preifatrwydd. Edrychwch ar y polisi preifatrwydd yma. 

PA GYMWYSTERAU A PHROFIAD SYDD GAN Y CYNGHORWYR AR Y PLATFFORM?

Gallwch weld cymwysterau a phrofiad yr arbenigwyr yma. 

GWYBODAETH BWYSIG

Mae'r platfform yn cynnig cynnwys ymarfer corff a lles ac mae wedi'i gynllunio at ddibenion addysgol ac adloniant yn unig. Dylech ymgynghori â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall cyn dechrau rhaglen ffitrwydd newydd i benderfynu a yw'n iawn ar gyfer eich anghenion. Ni ddylech ddibynnu ar wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau, cynnwys a nodweddion sydd ar gael drwy'r platfform yn eu lle, ac nid ydynt chwaith yn disodli cyngor meddygol, diagnosis neu driniaeth broffesiynol. Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu gwestiynau am eich iechyd, dylech ymgynghori â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall bob amser. Peidiwch ag anwybyddu, osgoi nac oedi cyn cael cyngor meddygol neu gyngor yn ymwneud ag iechyd gan eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol oherwydd rhywbeth y gallech fod wedi'i ddarllen neu ei glywed drwy'r platfform. Rydych chi’n defnyddio unrhyw wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau, cynnwys a nodweddion sy’n cael eu darparu drwy'r platfform ar eich risg eich hun yn unig ac nid yw'n gyfystyr â chyngor meddygol na gofal iechyd.

Gall datblygiadau mewn ymchwil feddygol effeithio ar y wybodaeth, y cynhyrchion, y gwasanaethau, y cynnwys a'r nodweddion sy'n ymddangos ar y platfform. Ni ellir rhoi unrhyw sicrwydd y bydd y cyngor a geir ar y platfform yn cynnwys y canfyddiadau neu’r datblygiadau diweddaraf bob amser mewn perthynas â’r deunydd penodol ac, i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn gwneud unrhyw warant o unrhyw fath, ar sail awgrym neu’n benodol, o ran ei fanwl gywirdeb, ei gyflawnder neu ei briodoldeb i unrhyw ddiben penodol.
 

Drwy ddefnyddio'r platfform rydych chi'n cydnabod bod elfen o risg bob amser yn gysylltiedig ag unrhyw weithgarwch corfforol a chi yn unig sy’n gyfrifol am unrhyw risg yn deillio o’ch presenoldeb neu gyfranogiad mewn unrhyw ymarfer. Eich cyfrifoldeb chi yw ymgynghori â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall cyn cymryd rhan mewn unrhyw ymarfer corff i sicrhau eich bod yn ddigon heini ac iach i gymryd rhan ac na fydd eich cyfranogiad yn peri unrhyw risgiau anarferol neu ddifrifol i'ch iechyd a'ch lles. Os byddwch chi’n teimlo anghysur neu boen ar unrhyw adeg yn ystod ymarfer, dylech roi'r gorau i'r ymarfer a gofyn am gymorth meddygol yn ôl yr angen.