Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} Gweld Mwy   Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion.

Campfa Cryfder Newydd Canolfan Hamdden y Barri

Gwelliannau cyffrous i’ch canolfan!

Ar y cyd â Chyngor Bro Morgannwg a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae’n
bleser gennym gyhoeddi ein bod yn lansio ‘Campfa Cryfder’ newydd sbon. Bydd y gwaith
uwchraddio sylweddol yma’n golygu bod yr ardal Cryfder Morthwyl yn symud i ardal fwy o
lawer – 600m2 – gan gynnwys cyfleusterau cwbl hygyrch, ardal ymarfer gweithredol, offer
aml-lwyfan, gwell cyfarpar gwrthiant ac ardal ymestyn. Rydyn ni’n buddsoddi bron i
£500,000 yn y man ymarfer newydd, blaengar hwn. Dyma sydd i ddod:

 

  • 18 o beiriannau Cryfder Morthwyl wedi’u hadnewyddu, a 5 peiriant newydd
  • Rhagor o feinciau Olympaidd, offer sgwatio a phlatfformau codi pwysau
  • Mwy o lawer o offer gwrthiant a cheblau “Signature”
  • Dringwyr PowerMill gyda nifer o ddewisiadau ymarfer
  • Ardal ymarfer gweithredol newydd sbon gyda thraciau sled 15m deuol
  • Cyflwyno ffitrwydd grŵp ar lawr y gampfa gan ddefnyddio offer fel rhaffau trwm,
  • bocsys plyometrig, TRX, peiriannau rhwyfo, SkiErg a beiciau aer
  • Ardal ymestyn fawr gyda matiau pwrpasol

Beth yw dyddiadau’r prosiect?

Mae pethau’n dod ymlaen yn dda gyda’n contractwyr ni ac rydyn ni’n gobeithio agor ym mis
Mehefin.


Rydyn ni eisoes wedi dechrau ar y gwaith o addasu ardal flaenorol i’r ochr o Ganolfan
Hamdden y Barri. Rydyn ni wedi tyllu drwodd ar y llawr cyntaf rhwng y cyrtiau sboncen a’r
neuadd chwaraeon yn barod i osod mynedfa i’r cyfleusterau newydd.  


Mae’r offer newydd eisoes wedi cael ei archebu gan Life Fitness a Jordan Fitness.

Pa offer fydd ar gael yn yr ardal newydd yn y gampfa?

Amrywiaeth eang o offer iso-ochrol i dargedu’r frest, y cefn, yr ysgwyddau a’r coesau

  • 2 x trac sledio LED 15m
  • Offer aml-lwyfan gydag atodiadau sgwatio, pêl-darged a ffrwydryn tir
  • Dringwyr PowerMill
  • Ardal SkiErg, beiciau aer a rhwyfo
  • Peiriannau gyrru’r glŵts a gwthio’r glun
  • Dewis gwell o beiriannau cebl a gwrthiant ‘Signature’
  • Dymbels 2.5kg - 65kg
  • Platfformau codi Olympaidd, offer sgwatio hanner a llawn
  • Dewis gwell o ddosbarthiadau ffitrwydd grŵp yn y rhaglen a fydd yn defnyddio
  • rhaffau, slediau, offer aml-lwyfan, ymarfer TRX, SkiErg, peiriannau rhwyfo, cerdded
  • fel ffermwr a mwy!

Pa gyfleusterau fydd yn cael eu heffeithio?

Mae’r offer Cryfder Morthwyl presennol yn cael ei anfon i ffwrdd i gael ei adnewyddu, a fydd
yn effeithio ar y gampfa Cryfder Morthwyl o ddechrau mis Mai nes ein bod yn ailagor. Bydd
yr ardal pwysau rhydd yn dal ar gael i gwsmeriaid fel arfer ond bydd y peiriannau plât
Cryfder Morthwyl yn cael eu tynnu, ac felly bydd yr offer yn gyfyngedig am gyfnod byr.


Rydyn ni’n disgwyl i’r tarfu yma bara am tua 4 wythnos. Yn ystod y cyfnod yma, byddwn yn
gwerthfawrogi eich amynedd a’ch dealltwriaeth cyn i ni agor y cyfleuster newydd yn ei holl
ogoniant!


Bydd ein prif gampfa ni ar y lefel uchaf yn aros ar agor ac ni fydd y gwaith adnewyddu yn
effeithio arni. Ond oherwydd bod ein hardal Cryfder Morthwyl yn cael ei hadnewyddu, efallai
y bydd ein cwsmeriaid ni’n ei gweld hi’n brysurach yn y brif gampfa yn ystod yr adegau
mwyaf poblogaidd.


Ni fydd unrhyw effaith ar unrhyw ardal arall o’r ganolfan, gan gynnwys y dosbarthiadau
ymarfer grŵp a’r gweithgareddau yn y pwll nofio.

A fydd effaith ar fy aelodaeth i yn ystod y cyfnod hwn?

Ni fydd effaith ar y brif gampfa a bydd pob aelodaeth ffitrwydd yn parhau fel arfer. Bydd y
dosbarthiadau ymarfer grŵp yn parhau a bydd yr ardal pwysau rhydd ar gael drwy’r cyfnod i
gyd.


Bydd pob aelod ffitrwydd yn parhau i allu defnyddio cyfleusterau eraill ar draws Bro
Morgannwg, gan gynnwys Canolfannau Hamdden Penarth, Llanilltud Fawr a’r Bont-faen.

Beth fydd yn digwydd i’r hen ardal Cryfder Morthwyl?

Wrth i nifer yr aelodau gynyddu, mae mwy a mwy o alw am ddosbarthiadau ymarfer grŵp;
felly, byddwn yn newid yr ystafell i fod yn stiwdio ffitrwydd effaith uchel. Y nod yw ailaddurno
ac uwchraddio’r ardal i roi’r profiad gorau posib i’n haelodau ni. 


Bydd newid pwrpas yr ardal hon yn golygu y bydd mwy o leoedd ar gael yn rhai o’n
dosbarthiadau mwyaf poblogaidd, gan leihau rhestrau aros, darparu lle mwy preifat a
galluogi ein hyfforddwyr i ddarparu dosbarthiadau o safon. Bydd ein dosbarthiadau yn y
neuadd chwaraeon yn symud i’r stiwdio newydd hefyd, a fydd yn golygu bod y cyrtiau’n
rhydd yn amlach ar gyfer pethau fel Pêl Picl, Badminton a Phêl Rwyd Cerdded, sydd i gyd
wedi’u cynnwys yn eich aelodaeth chi.

A fydd y gampfa newydd wedi’i chynnwys yn fy aelodaeth i, a sut byddaf i’n ei defnyddio pan fydd pethau wedi agor?

Bydd y ‘Gampfa Cryfder’ newydd ar gael i’n holl aelodau ffitrwydd ni sydd dros 16 oed, gan
gynnig cyfleusterau gwell a gwell cynnig o ran dosbarthiadau ymarfer grŵp. Bydd pobl nad
ydynt yn aelodau hefyd yn gallu defnyddio’r ardal ar sail talu a defnyddio. Bydd pris eich
aelodaeth chi yn aros yr un fath!

A fyddaf i’n gallu cael sesiwn gynefino ar yr offer newydd?

Wrth gwrs! Os hoffech chi gael sesiwn gynefino gan aelod o staff ar yr offer newydd, fe
allwch chi gysylltu â’r ganolfan yma i ofyn am hyn, neu drefnu sesiwn drwy’r ap. Neu, bydd
codau QR ar yr offer newydd. Fe allwch chi eu sganio i gael tiwtorial fideo cam wrth gam.

Sut gallaf i gael y wybodaeth ddiweddaraf?

Byddwn yn anfon e-byst at ein haelodau ac yn diweddaru ein sianeli cyfryngau
cymdeithasol. Bydd pob gohebiaeth i’w gweld yn y ganolfan hefyd er mwyn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf i chi cyn ac yn ystod y gwaith. 


Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, mae croeso i chi holi tîm y dderbynfa.

CYSYLLTWCH Â NI

Oes gennych chi fwy o gwestiynau neu bryderon? Rydyn ni yma i wrando a helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn ni, felly cysylltwch â ni.


Os ydych chi'n gyffrous am y gwelliannau sydd i ddod, fe ddylech chi ymuno â ni.

CYSYLLTU YMUNO NAWR