Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
Mae HealthHero yn cysylltu technoleg glyfar ac arbenigedd clinigol safon aur i wneud gofal iechyd o ansawdd uchel yn fwy hygyrch.
Fel rhan o'n Haelodaeth Premium, byddwch yn gallu archebu ymgynghoriad meddyg teulu preifat yn hawdd ar-lein, pryd bynnag y bydd angen. Mae apwyntiadau ar gael drwy gyswllt fideo neu alwad ffôn rhwng 8am a 10pm, 7 diwrnod yr wythnos (ac eithrio gwyliau banc). Mae hynny’n golygu eich bod yn cael cyngor, sicrwydd a, lle bo hynny’n briodol, meddyginiaeth pan fyddwch ei hangen fwyaf.
Mae’r gwasanaeth yma i’ch helpu chi i ofalu am eich iechyd a’ch lles, beth bynnag yw eich pryder neu gwestiwn meddygol, gan gydnabod, wrth i’n bywydau ni brysuro, bod yr angen am gyngor meddygol arbenigol hygyrch yn dod yn bwysicach fyth.
Gall y meddyg teulu roi diagnosis, cynghori a darparu triniaeth ar gyfer eich pryder meddygol. Mae'r meddyg ymgynghorol yn gallu rhoi meddyginiaethau ar bresgripsiwn yn yr un modd â'ch meddyg lleol. Unwaith y byddwch chi’n cytuno i gwrs o driniaeth yn eich apwyntiad Meddyg Teulu o bell, bydd y Meddyg Teulu yn rhoi presgripsiwn preifat i chi i'w gasglu o'ch fferyllfa leol neu i gael ei ddosbarthu i unrhyw gyfeiriad yn y DU, boed yn eich cartref, yn y gwaith neu ar wyliau. Gan mai presgripsiynau preifat yw’r rhain, bydd angen i chi dalu am y feddyginiaeth bresgripsiwn ac nid oes unrhyw eithriadau yn ddilys gyda’r gwasanaeth yma e.e. presgripsiynau am ddim i bobl dros 65 oed.
Os yw'n briodol, gall y meddyg teulu roi nodyn ffitrwydd i'ch cyflogwr hefyd, neu roi llythyr atgyfeirio preifat agored i chi.
Mae gwasanaethau meddyg teulu preifat yn costio £15 y mis o leiaf fel arfer, ond rydyn ni wedi cytuno ar bartneriaeth genedlaethol gydaHealthHero fel bod y gwasanaeth yn cael ei gynnwys heb unrhyw gost ychwanegol yn eich Aelodaeth Premium.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am ein buddion Aelodaeth Premium a sut i brynu yma.
Porwch drwy ein cwestiynau cyffredin isod i weld beth i'w ddisgwyl wrth drefnu ymgynghoriad gyda'n gwasanaeth meddyg teulu preifat.
Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru ar gyfer ein Haelodaeth Premium, bydd yn cymryd hyd at 10 diwrnod i weithredu eich gwasanaeth HealthHero oherwydd amser prosesu ein partner iechyd. Bydd gennych eich porthol cwsmeriaid eich hun y mae posib cael mynediad iddo yma.
Wrth fewngofnodi i ddechrau, bydd angen i chi gofrestru gyda HealthHero, gan ddefnyddio eich rhif aelodaeth. Gallwch ddod o hyd i hwn drwy glicio ar ‘Membership card’ ar sgrin gartref eich ap. Mae'r cofrestriad ychwanegol yma’n sicrhau bod gan Healthhero y wybodaeth berthnasol sy'n ofynnol ar gyfer ymgynghoriad eich meddyg teulu.
Bydd un o’n gweithredwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn ateb eich galwad, yn gofyn am rai manylion ac yn trefnu amser cyfleus i Feddyg Teulu eich ffonio chi’n ôl, neu’n anfon e-bost atoch chi i ymuno â dolen os ydych chi wedi gwneud cais am ymgynghoriad fideo.
Nac oes, gallwch gysylltu â llinell gyngor y meddyg teulu mor aml â sydd angen. Gan nad oes cyfyngiad ar nifer yr ymgynghoriadau ffôn, fideo neu neges, gallwch archebu ymgynghoriad ar wahân ar gyfer pob problem unigol sydd gennych chi.
Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn cael y cyngor, y sicrwydd a, lle bo hynny’n briodol, y diagnosis sydd arnynt eu hangen gan ein meddygon ni. Fodd bynnag, os bydd angen archwiliad corfforol neu bresgripsiwn dro ar ôl tro ar gyfer eich symptomau, efallai y cewch eich cyfeirio at eich meddyg teulu eich hun. Nid yw'r gwasanaeth yma’n cymryd lle eich meddyg teulu chi eich hun.
Ydych. Lle bo modd, byddwn bob amser yn ceisio darparu ar gyfer dewis claf i siarad gyda meddyg gwrywaidd neu fenywaidd.
Unrhyw beth y byddech chi'n ei ofyn i feddyg teulu gyda’r GIG, er enghraifft, problemau stumog, cwynion clustiau, trwyn a gwddw, cyflyrau dermatolegol, poenau a dolur ac esboniadau neu ail farn armddiagnosis neu driniaeth. Rydyn ni’n argymell archebu ymgynghoriad ar wahân ar gyfer pob problem unigol sydd gennych chi.
Mae dibynyddion yn gymwys i ddefnyddio llinell gyngor y meddyg teulu. Pan mae claf dan 16 oed, rhaid i’r rhiant / gwarcheidwad cyfreithiol drefnu apwyntiad ar ran ei ddibynnydd a rhaid iddo hefyd fod yn bresennol yn yr ymgynghoriad.
Mr ST| 41 oed
Gan ei fod yn ofni bod ganddo broblem gyda nerf, fe gysylltodd Mr ST â'r Gwasanaeth Meddyg Teulu Rhithwir am gyngor ynghylch poen yn ei wddw a’i ysgwydd. Ar ôl aros am ddim ond 42 munud am alwad yn ôl, roedd Mr ST yn siarad â meddyg teulu am ei symptomau a sut roedd ei boen yn gwaethygu wrth iddo droi ei ben i'r chwith. Gan nad oedd y claf wedi dioddef o unrhyw wendid yn ei fraich na’i goes, daeth y Meddyg Teulu i’r casgliad bod gan y claf sbasm cyhyr acíwt yn ei wddw ac felly rhoddodd gyngor ar y tabledi lladd poen gorau sydd ar gael dros y cownter. Pe bai'r boen yn gwaethygu, neu pe bai'r claf yn profi unrhyw wendid yn ei goesau neu freichiau, cafodd gyfarwyddyd i gysylltu â'i ganolfan y tu allan i oriau neu alw heibio leol am archwiliad.
Miss AI | 6 diwrnod oed
Galwodd rhiant pryderus i ofyn am gyngor am eu merch fach 6 diwrnod oed a oedd yn taflu i fyny bob tro ar ôl bwydo. Trafododd y meddyg yr enedigaeth a phatrymau bwydo'r babi a sefydlodd nad oedd gan y babi unrhyw dymheredd na symptomau eraill. Dywedwyd bod y babi'n bwydo'n gyflym iawn ac awgrymodd y meddyg y dylent roi cynnig ar deth o fath gwahanol ac os nad oedd gwelliant wedyn, mynd â hi i weld ei meddyg ei hun. Dywedodd y galwr fod y Llinell Gymorth Meddygon Teulu yn wasanaeth gwych, yn enwedig y ffaith ei fod ar gael 24 awr ac y byddent yn bendant yn defnyddio’r gwasanaeth eto.
Mrs RH | 25 oed
Roedd Mrs RH wedi bod yn profi poenau yn ei gwddw a'i brest am rai dyddiau a arweiniodd at ymweliad ag adran Damweiniau ac Achosion Brys. Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, a hithau'n dal ddim yn teimlo'n well, cysylltodd â'r Gwasanaeth Meddyg Teulu Rhithwir a siarad â meddyg teulu am fwy nag 20 munud. Yn ystod yr ymgynghoriad, fe roddodd y meddyg teulu ddiagnosis o broblem yn ymwneud â threulio iddi a rhoi meddyginiaeth gwrthasid iddi ar bresgripsiwn i leddfu'r symptomau ar unwaith.