SYMUD I PREMIUM GYDA'CH AELODAETH

Gwella eich profiad gyda'n Haelodaeth Premium a mwynhau buddion unigryw. Nid yn unig y cewch chi fynediad llawn i'ch hoff safle, ond mae'r aelodaeth yma’n rhoi buddion iechyd a lles ychwanegol gwerthfawr i chi.

Leisure Centre Hero Image

ARCHWILIO MANTEISION EIN HAELODAETH PREMIUM

 

 

Aelodaeth Safonol

Aelodaeth Premium

Mynediad llawn i’n Campfa
Mynediad llawn i’n Pwll Nofio
Mynediad llawn i’n Dosbarthiadau
Mynediad i wasanaeth meddyg teulu preifat

x

Mynediad i blatfform ARVRA wellness

x

Gostyngiadau o 33% ar gyrsiau maeth a gostyngiad o 10% ar ymgynghoriadau maeth a lles un i un

x

Archebu dosbarthiadau hyd at 14 diwrnod ymlaen llaw 7 dyddiau 14 dyddiau
Mynediad am ddim i ddosbarthiadau Good Boost*

x

Gostyngiadau o 10% ar ddiodydd poeth**

x

 

MAE PRYNU YN HAWDD

Gallwch ddewis ein Haelodaeth Premium naill ai ar-lein neu yn y ganolfan. Dewch o hyd i’ch canolfan agosaf yma ac ewch i ‘Membership’.

GWASANAETH MEDDYG TEULU PREIFAT, YN CAEL EI DDARPARU GAN HEALTHHERO

Ymgynghorwch â meddyg pan mae angen drwy fideo, dros y ffôn neu drwy neges. Mae ein Haelodaeth Premium yn rhoi mynediad i chi at Feddyg Teulu cwbl gymwys ar gyfer ymgynghoriad ar-lein neu dros y ffôn o fewn 48 awr, gan eich helpu chi i reoli eich iechyd a’ch lles. Am ragor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin am Healthhero, edrychwch ar ein tudalen ni yma.

Mae gwasanaethau meddyg teulu preifat yn costio o leiaf £15 y mis fel rheol, ond rydyn ni wedi cytuno ar bartneriaeth genedlaethol gyda HealthHero fel bod y gwasanaeth yn cael ei gynnwys heb unrhyw gost ychwanegol yn eich Aelodaeth Premium.

Sylwch: gall gweithredu HealthHero gymryd hyd at 10 diwrnod ar ôl i chi brynu eich Aelodaeth Premium.

PLATFFORM ARVRA WELLNESS 

Yn darparu cynnwys iechyd a lles hwylus i chi, o fideos ymarfer i bodlediadau lles. Mae platfform ARVRA yn cynnwys pum dimensiwn lles - Symudiad; Maeth; Hormonau; Ymwybyddiaeth Ofalgar; a Straen – gan gefnogi pob agwedd ar eich lles.

Dyma'r cynnwys:

  • Mwy na 600 o sesiynau ymarfer wedi'u recordio ymlaen llaw, wedi'u cynllunio i gydbwyso lefelau straen
  • Cannoedd o ryseitiau maethlon, hawdd eu dilyn
  • Myfyrdodau bitesize a gwaith anadlu y gallwch chi eu gwneud yn unrhyw le ar unrhyw adeg
  • Cefnogaeth hormonaidd i ferched a dynion
  • Adnoddau rheoli straen
  • Cyngor ar gwsg

Yn £19.99 fel rheol am fis o aelodaeth, rydyn ni wedi cytuno ar bartneriaeth genedlaethol gydag ARVRA fel bod y platfform yn cael ei gynnwys heb unrhyw gost ychwanegol yn eich Aelodaeth Premium.

Am ragor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin am ARVRA Wellness edrychwch ar ein tudalen ni yma.

MAETH A LLES

Gyda'n Haelodaeth Premium, byddwch yn derbyn gostyngiad unigryw o 33% ar ein cyrsiau maeth sy’n cael ei harwain gan arbenigwyr yn ogystal â gostyngiad o 10% ar ymgynghoriadau maeth a lles personol. Cadwch lygad am y codau hyrwyddo yn eich mewnflwch. Edrychwch ar ein cyrsiau maeth ar ein gwefan ni, MyHealthyWay.

Mae cyrsiau 2024 yn cynnwys:

  • Hanfodion lles drwy faeth
  • Hybu imiwnedd drwy faeth a ffordd o fyw
  • Cefnogi cyflyrau Cyhyrysgerbydol drwy faeth
  • Cefnogi lles emosiynol drwy faeth a ffordd o fyw
  • Cefnogi’r menopos drwy faeth
  • My Healthy Way i gydbwyso pwysau'r corff
  • Egni, cwsg a chymhelliant – cwrs maeth a ffordd o fyw
  • Maeth plentyndod - cwrs i rieni a gofalwyr
  • Cydbwyso’r siwgr yn y gwaed a chefnogi cyn-diabetes

SICRHAU EICH LLE

Gyda'n haelodaeth Premium gallwch fwynhau'r budd o archebu eich hoff ddosbarthiadau neu weithgareddau hyd at 14 diwrnod ymlaen llaw. Sicrhewch eich lle gydag archebion ar gael hyd at 7 diwrnod cyn ein haelodaeth safonol. Cysylltwch â'ch canolfan leol am weithgareddau penodol.

HYBIAU MSK GOODBOOST YN GYNWYSEDIG

Mae dewis Premium yn golygu y gallwch chi elwa o fynediad cynhwysol i'n dosbarthiadau adsefydlu cyhyrysgerbydol GoodBoost.* Archebwch eich dosbarth GoodBoost fel arfer, drwy'r ap neu'r wefan, a bydd yn cael ei ddangos am ddim. Mae rhagor o wybodaeth am fanteision unigryw ein Hybiau MSK ar gael yma, ynghyd â’r ffurflenni atgyfeirio priodol y mae angen eu llenwi cyn dod i’r dosbarthiadau MSK.

ARBED YN EIN CAFFIS

Fel aelod Premium, cewch fwynhau gostyngiad ychwanegol o 10% ar brynu diodydd poeth yn ein caffis ni**. Cyfle i chi fwynhau diod poeth ar ôl eich ymarfer ac arbed arian.

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Porwch drwy ein cwestiynau cyffredin isod i ddod o hyd i atebion i ymholiadau cyffredin. Os na allwch chi ddod o hyd i'r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani, cysylltwch â'ch Canolfan Hamdden leol naill ai wyneb yn wyneb neu drwy'r ddolen yma.

BETH YW MANTEISION LLAWN UWCHRADDIO?
  • ● Mynediad i HealthHero, gwasanaeth meddyg teulu ar-lein preifat
    ● Platfform ARVRA Wellness (yn dod yn fuan)
    ● Gostyngiad o 33% ar Gyrsiau Maeth 6 wythnos (ar draws pynciau arbenigol)
    ● Gostyngiad o 10% ar ymgynghoriadau maeth a lles personol un i un
    ● Mynediad cynhwysol i ddosbarthiadau adsefydlu Hwb MSK GoodBoost*
    ● Gostyngiadau o 10% ar ddiodydd poeth**
    ● Hawliau archebu 14 diwrnod ymlaen llaw 
SUT MAE'N GWEITHIO?

Mae ein Haelodaeth Premium ar gael i gwsmeriaid newydd a phresennol ar gyfradd sefydlog, hyblyg neu flynyddol. Os ydych chi'n gwsmer newydd, gallwch brynu ein Haelodaeth Premium ar-lein. Os ydych chi'n gwsmer presennol, ewch i'r dderbynfa a byddant yn eich cofrestru ar gyfer Premium.

PRYD BYDDAF YN CAEL FY HYSBYSU?

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein Haelodaeth Premium, byddwn yn anfon negeseuon e-bost pwysig atoch chi, felly cadwch lygad am y canlynol:
1. Ar ôl cofrestru byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau, yn rhoi gwybod i chi eich bod bellach yn Aelod Premium.
2. 1 diwrnod ar ôl ymuno - Byddwch yn derbyn e-bost croeso gyda'ch codau gostyngiad maeth - cadwch y rhain yn ddiogel fel eich bod y gallu archebu un o'n cyrsiau yma. 
3. 2 ddiwrnod ar ôl ymuno - Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau gan ARVRA, yn manylu ar sut gallwch chi lawrlwytho'r ap a sut i'w ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth am ARVRA ewch i'r dudalen yma.
4. 10 diwrnod ar ôl ymuno - Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau gan HealthHero. I gael rhagor o wybodaeth am HealthHero a sut mae'n gweithio, ewch i’r dudalen yma.

MAE GEN I AELODAETH EISOES, SUT MAE UWCHRADDIO I AELODAETH PREMIUM?

Os ydych chi eisoes yn aelod, ac yn dymuno uwchraddio, ewch i'r dderbynfa y tro nesaf y byddwch yn y ganolfan a gallant eich uwchraddio.

BETH YW COST EIN HAELODAETH PREMIUM, OES UNRHYW FFIOEDD YCHWANEGOL NEU DALIADAU CUDD?

Mae posib gweld ein prisiau Aelodaeth Premium ar dab aelodaeth eich canolfan agosaf. Chwiliwch am eich un chi yma

Edrychwch ar y telerau a’r amodau llawn yma.

PA MOR HIR YW'R CYFNOD YMRWYMO AR GYFER YR AELODAETH PREMIUM, A BETH YW'R TELERAU AR GYFER CANSLO?

Mae ein Haelodaeth Premium yn gweithredu yr un fath â'n haelodaeth safonol, gydag opsiynau misol hyblyg, sefydlog am 12 mis a blynyddol. Edrychwch ar ein telerau ac amodau llawn yma.

SUT MAE CAEL MYNEDIAD I HEALTHHERO?

Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru ar gyfer ein Haelodaeth Premium, bydd yn cymryd hyd at 10 diwrnod i weithredu eich gwasanaeth HealthHero oherwydd amser prosesu ein partner iechyd. Bydd gennych eich portholo cwsmeriaid eich hun y mae posib cael mynediad iddo yma.

Wrth fewngofnodi i ddechrau, bydd angen i chi gofrestru gyda HealthHero, gan ddefnyddio eich rhif aelodaeth. Gallwch ddod o hyd i hwn drwy glicio ar ‘Membership card’ ar sgrin gartref eich ap. Mae'r cofrestriad ychwanegol yma’n sicrhau bod gan Healthhero y wybodaeth berthnasol sy'n ofynnol ar gyfer eich ymgynghoriad gyda meddyg teulu.

Am ragor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin am Healthhero, edrychwch ar ein tudalen ni yma.
 

AM BETH ALLWCH CHI SIARAD GYDA’CH MEDDYG TEULU HEALTHHERO?

Gallwch siarad gyda’ch meddyg teulu am unrhyw gyflyrau y byddech yn siarad â meddyg teulu y GIG amdanynt, gan gynnwys, er enghraifft:

  • Cyhyrysgerbydol
    ● Iechyd meddwl
    ● Ail farn
    ● Dermatoleg
    ● Ymholiadau am feddyginiaeth
    ● Pediatreg
    ● Iechyd merched
    ● Problemau gyda'r galon
    ● Cyngor Teithio a Brechlynnau
    ● Clust, trwyn, gwddw
    ● Problemau stumog
    ● Rhiwmatoleg
    ● System nerfol
    ● Gofal llygaid a golwg
    ● Anadlol
    ● Materion iwrin 
    ● Iechyd Dynion

Am ragor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin am Healthhero, edrychwch ar ein tudalen ni yma.

SUT MAE ARCHEBU FY NGHWRS MAETH A’R YMGYNGHORYDD GYDA FY NGOSTYNGIAD?

Gyda'n Haelodaeth Premium, byddwch yn derbyn gostyngiad unigryw o 33% ar ein cyrsiau maeth ac yn mwynhau gostyngiad o 10% ar ymgynghoriadau maeth a lles personol. Bydd y codau taleb yma’n cael eu hanfon atoch chi ar e-bost. Gallwch weld ein cyrsiau maeth drwy MyHealthyWay.

I archebu eich ymgynghoriad maeth personol, e-bostiwch myhealthyway@parkwood-leisure.co.uk gan gynnwys eich rhif aelodaeth.

YDI’R AELODAU PREMIUM YN CAEL ARCHEBU LLE YMLAEN LLAW MEWN DOSBARTHIADAU NEU GYFLEUSTERAU?

Ydyn, bydd aelodau sy'n prynu ein Haelodaeth Premium yn cael archebu 14 diwrnod ymlaen llaw. Yn dibynnu ar gyfleusterau a gweithgareddau eich canolfan leol, bydd hyn yn cynnwys archebion am ddosbarthiadau a gweithgareddau. Gwiriwch gyda'ch canolfan hamdden am fanylion penodol.

BETH OS MAI AELODAETH GORFFORAETHOL SYDD GEN I?

Os oes gennych chi aelodaeth gorfforaethol, efallai yr hoffech chi siarad gyda'ch cyflogwr am y posibilrwydd y bydd yn talu'r £7.50 ychwanegol y mis ar gyfer ein Haelodaeth Premium. Os nad yw’n dymuno gwneud hynny, gallwch dalu'r £7.50 ychwanegol y mis eich hun, gan ddilyn y llwybr cofrestru drwy ein ap ni isod. Bydd angen i chi nodi eich manylion talu eich hun ar gyfer y ffi fisol ychwanegol.

Llwybr cofrestru: Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi a dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

  •  Agorwch yr ap Leisure Centre
  • Cliciwch ar y botwm Premium Member
  • Cliciwch ar GET PREMIUM, wedyn Upgrade to Premium
  • Cliciwch ar y plws i gadarnhau’r uwchraddio
  • Gosodwch eich dyddiad dechrau a chadarnhau eich taliad
BETH OS OES GEN I AELODAETH P R NEU AELODAETH DEULU?

Mae ein Haelodaeth Premium ar gael yn unigol i bob aelod, gan gynnwys oedolion ar aelodaeth pâr neu aelodaeth deuluol. Mae hyn yn golygu y byddai angen i gwpl neu aelodau o'r teulu uwchraddio i'n Haelodaeth Premium yn unigol drwy ein pp. Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi a dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

  • Agorwch yr ap Leisure Centre
  • Cliciwch ar y botwm Premium Member
  • Cliciwch ar GET PREMIUM, wedyn Upgrade to Premium
  • Cliciwch ar y plws i gadarnhau’r uwchraddio
  • Gosodwch eich dyddiad dechrau a chadarnhau eich taliad
YDI FY HAWLIAU ARCHEBU PRESENNOL I’N NEWID, NEU’R TELERAU A’R AMODAU?

Rydyn ni’n deall efallai na fydd rhai aelodau yn gallu neu'n fodlon talu am yr Aelodaeth Premium. Rydyn ni eisiau eich sicrhau chi na fydd hyn yn effeithio ar eich telerau a’ch amodau aelodaeth presennol na'ch hawliau archebu presennol. Byddwch yn cael mynediad at yr un buddion i gyd ag yr ydych yn eu mwynhau ar hyn o bryd.

Mae’r telerau a’r amodau i’w gweld yma.

DEWIS PREMIUM GYDA'CH AELODAETH

Peidiwch â cholli’r cyfle, mynnwch fwy o'ch aelodaeth.

 

* Lle maent ar gael ar y safle ac yn dilyn y llwybr cyfeirio priodol
** Mewn safleoedd sy'n cymryd rha