Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
Ni fydd y bowlen ofod yn gweithredu heddiw yn ein pwll hamdden. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.
Golwg 2 rhybuddion
Dewch am sblash yn ein pwll hamdden ni am brofiad mae'r plant yn siŵr o'i gofio!
Ydych chi'n ddigon dewr i blymio i'n powlen ofod? Efallai eich bod chi eisiau gweld pwy all gwblhau ein tair llithren dŵr? Neu efallai eich bod chi'n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy hamddenol, ac os felly yr afon ddiog ydi'r dewis i chi!
Dewch draw i'w brofi drosoch chi’ch hun. Dewiswch eich sesiwn isod ac archebu heddiw!
Plymiwch i hwyl gyda'n Sesiwn Nodweddion Llawn ni! Cyfle i fwynhau’r llithrenni, y bowlen ofod, yr afon ddiog, y trobwll, a'r ardal chwareus i blant gyda llithren fach. Perffaith ar gyfer pob oed!
Mae'r sesiwn yma’n cynnig nofio ysgafn i oedolion a phlant iau, yn cynnwys afon ddiog, trobwll, a strwythur chwarae rhyngweithiol gyda llithren fach.