Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} Gweld Mwy   Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion.

Cwestiynau Cyffredin

Pa welliannau sydd wedi cael eu gwneud eisoes?

Rydyn ni’n falch o ddweud ein bod ni wedi gorffen ailwynebu ein Neuadd Chwaraeon
yn llwyr bellach ac mae'n edrych yn wych. Rydyn ni hefyd wedi adnewyddu toiledau’r
llawr 1af yn llwyr i safon uchel iawn.

Beth sy'n digwydd a phryd?

Mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, rydyn ni’n parhau â’n gwaith gwella
drwy uwchraddio’r toiledau ar y llawr gwaelod, yr unedau trin aer ar draws y Pwll
Nofio a chyfleusterau newid ochr y pwll, ac mae gwaith uwchraddio wedi’i gynllunio

hefyd ar gyfer ardal newid y Pwll Nofio. Rydyn ni’n gobeithio bydd y gwaith yn
dechrau ar 27 Gorffennaf am gyfnod o 8 diwrnod.

Beth sydd ddim ar gael?

Dim ond y Pwll Nofio fydd ddim ar gael o ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf tan ddydd Sul
4 Awst. Mae'r holl gyfleusterau eraill yn parhau ar agor fel arfer. Pan fyddwn yn
dechrau uwchraddio cyfleusterau newid y pwll, byddwn yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf i chi.

Beth fydd yn digwydd pan na fydd y Pwll yn weithredol o 27 Gorffennaf tan 4
Awst?

Ni fydd nofio yn bosibl yn Llanilltud yr wythnos honno, ond gallwch ymweld ag
unrhyw un o'n safleoedd eraill ni sydd â phyllau (Y Barri a Phenarth). Os ydych chi'n
aelod, mae hyn wedi'i gynnwys eisoes yn eich aelodaeth a gallwch archebu lle drwy
newid y safle ar eich Ap neu ffonio timau'r Ganolfan a byddant yn eich helpu.

Beth sy'n digwydd gyda fy Ngwersi Nofio yn ystod y cyfnod o gau?

Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra ond i wneud yn siŵr eich bod chi’n
cael cynnig dewis arall, rydyn ni’n mynd i roi credyd i chi. Gallwch ddefnyddio hwn i
archebu sesiwn arall yn Llanilltud yn ystod wythnos wahanol neu byddwn yn
ychwanegu at ein rhaglen nofio yn y Barri, sesiynau ychwanegol yn ystod wythnos
cau'r pwll, fel eich bod yn gallu archebu lle yno. Ffoniwch ni ar 01446 403 000 neu
ewch i weld ein tîm ni yn y dderbynfa am gefnogaeth gyda hyn.

Pryd fydd y toiledau ar eu newydd wedd yn ailagor?

Rydyn ni’n gobeithio y bydd y contractwyr wedi cwblhau'r gwaith yn llawn erbyn
diwedd mis Gorffennaf.

Ydych chi'n uwchraddio'r cyfleusterau newid wrth ochr y pwll?

Ydyn, ond yn gyntaf rhaid i ni orffen y prosiect toiledau a rheoli hinsawdd. Wedyn
gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am effaith y gwaith yma a'r uwchraddio y
gallwch ddisgwyl ei weld.